Pam siopa yn CRAFT?
Pam siopa yn CRAFT?
Mae yma fargeinion i’w cael. Anodd credu? Dewch draw i gael golwg:
- Dewis aruthrol – beth bynnag sydd eisiau, mae’n debyg ei fod gyda ni.
- Cadw’n lleol – peth da yw helpu’n gilydd.
- Arbed y blaned – does neb yn hoffi’r syniad o daflu ein hen bethau hoff ar domen barhaol y safle tirlenwi. Felly rhowch nhw i ni, ac fe ânt i rywun sydd eu hangen, neu i’w hailgylchu.
- Cyfleus – oes rhywbeth wedi dal eich llygad? Hyd yn oed os yw’n gelficyn mawr, fe gewch chi fynd ag e’n syth! Neu dalu swm bychan i ni ei gludo acw.
Rhwydd!
