Amdamon Ni
Lleihad, ailddefnydd, ailfwynhad – dyna arwyddair CRAFT
Busnes dielw annibynnol ydym a’n nod yw ailddefnyddio eitemau’r tyˆ a chanfod cartref newydd iddynt.
Wrth roi a phrynu pethau yn ein siop, gallwch helpu lleihau’r gwastraff diangen sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, neu sy’n dewis llechu hyd dragwyddoldeb yng ngwaelod eich cwpwrdd.
Llesol i’r blaned, llesol i chi!
CRAFT: Ogof Aladin, yma yn Aberystwyth
Wyddoch chi byth beth gewch chi yma. Ond mae hynny’n rhan o’r hwyl. Dyma rai o’r trysorau:
- Celfi
- Offer tyˆ
- Dillad a gemwaith
- Llyfrau
- Trugareddau a phethau i’w casglu
- Teganau a phethau babanod
- Adloniant a gemau
- Nwyddau trydanol
- Cyfrifiaduron – gwerthu, trwsio ac uwchraddio
Ydych chi’n cael gwared o rywbeth? Fe gymerwn ni unrhyw beth y gallai rhywun ei ailddefnyddio, ond os nad ydych yn siwˆ r rhowch ganiad inni a gofyn! 01970 626532
Mwy nag wyneb del
Rydyn ni’n gwmni da. Nid elusen ydyn ni, ond busnes dielw llwyddiannus gyda chalon fawr foesegol.
Yr amgylchedd – mae’n gas gennym safleoedd tirlenwi a’r gwastraff diangen sy’n nodweddu’r 21ain ganrif – dyna sy’n ein gyrru bob dydd.
Y gymuned – darparwn eitemau am ddim i grwpiau ac elusennau lleol, a gweithiwn gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion a chyrff eraill i ddarparu offer tyˆ i’w cleientiaid.
Addysg – addysgu plant cynradd am ailgylchu; arwain disgyblion uwchradd ac NVQ ar leoliadau; trafod ein pensaernïaeth gynaliadwy a’n boeler biomas gyda graddedigion – mae ein drysau bob amser ar agor.

Mae'r staff yn gyfeillgar iawn. Os ydych yn dymuno unrhyw beth y maent bob amser yno i roi help llaw.Mr a Mrs Brunt, Llanon